Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau
Pawb / Am ddim

‘Bling!’ – Dysgu drwy Ddiwylliant a Chreadigrwydd

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 16 Meh16 Medi 2012 (Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar agor ar y rhan fwyaf o Wyliau Banc, gwiriwch cyn ymweld i wneud yn siŵr y bydd yr Amgueddfa ar agor.)

Mae’r arddangosfa hon yn lwyfan i’r gwaith bywiog, llawn afiaith a gynhyrchwyd gan bobl ifanc o bob cwr o Gymru, pob un yn ymdrin â’r thema ‘Bling!’ mewn ffordd wahanol.

Rydyn ni wedi edrych ar sut y caiff metel gwerthfawr, trysor ac addurn eu defnyddio i gyfleu chwaeth, delwedd a statws personol.

Gweithiodd pob gr?p gydag artist i greu eu ‘bling’ eu hunain – unrhywbeth o fodrwy syml i fwclis mawr cymhleth neu fideos cerddoriaeth a chelf graffiti.

Cafodd y grwpiau gyfle i weld tu ôl i’r llenni yn ein Hamgueddfeydd ac archwilio’r gemwaith, yr arteffactau a’r gemau gaiff eu cadw yn y casgliadau.

Gallwch chithau weld rhai o’r dylanwadau yn eu gwaith, yn y glo sydd fel ‘aur du’ neu ‘bling mewn celf’.

Gallwch weld arddangosfeydd ‘Bling!’ yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Amgueddfa Wlân Cymru, Amgueddfa Lechi Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru a Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru.

Dyma broject Cymru-gyfan ar gyfer pobl ifanc dan nawdd Amgueddfa Cymru a Chronfa Ganlyniadau Cymunedau’n Gyntaf.