Pawb / Am ddim
Arddangosfa Colegau De Orllewin Cymru
Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen Tach 5 2012–Ion 31 2013 2013,
10am - 5pm
[delwedd: ]
[delwedd: ]
Dyma gyfle i fyfyrwyr cyrsiau dylunio, ffasiwn a thecstilau ymateb i thema eleni, sef ‘mudo’, naill ai drwy ddylunio cynnyrch neu greu gwaith celf.
Rydym wedi gweithio gyda Jen Jones o Ganolfan y Cwilt Cymreig, Llambed i ddatblygu cystadleuaeth ar y cyd i fyfyrwyr gan ddefnyddio’r ddau gasgliad fel ysbrydoliaeth.
Caiff y gwaith ei arddangos yn ein horiel decstilau drwy gydol mis Tachwedd, cysylltwch â’r Amgueddfa am ragor o fanylion.
Bydd gwaith y cystadleuydd sydd â’r dyluniad mwyaf llwyddiannus yn cael ei gynhyrchu i’w werthu yn y siop.
Dyma gyfle i ddylunwyr ifanc ymateb i’r brîff a chreu ymateb cyfoes i’r Amgueddfa a’i chasgliadau.
Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau