Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau
Pawb / Am ddim

Gofynnwch i'r Garddwr: Cyflwyniad i Docio Coed Afalau

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 24 Tach 2012, 2-3pm

Galwch draw i berllan Kennixton am gyflwyniad i docio coed afalau – pryd, pam a sut.

Byddwn yn edrych ar docio ffurfiannol ar gyfer coed ifanc yn ogystal â chynnal a chadw coed h?n.

Cyngor craff: Clymwch fand saim (ar gael o ganolfannau garddio) am foncyff y goeden a pholyn/polion ychydig droedfeddi o’r ddaear rhwng Hydref ac Ebrill i atal Brychan y Gaeaf rhag niweidio’r goeden. Dylech eu tynnu a’u llosgi ym mis Ebrill.