Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau
English
Pawb / Am ddim

Arddangosfa Dathlu'r Deugain

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 9 Mai31 Rha 2012

Ddeugain mlynedd yn ôl, agorodd Amgueddfa Lechi Cymru ei drysau i’r cyhoedd am y tro cyntaf!

Yn DATHLU’R DEUGAIN, arddangosfa ben-blwydd yr amgueddfa, cawn gipolwg ar sut a pham y cafodd safle diwydiannol ei weddnewid yn amgueddfa ym 1972 a’r hyn sydd wedi digwydd ar y safle yn y deugain mlynedd ers hynny.

Caeodd y gweithdai gwreiddiol o Oes Fictoria – sydd bellach yn gartref i Amgueddfa Lechi Cymru – ym mis Awst 1969, ynghyd â Chwarel Lechi Dinorwig, a chollodd cannoedd o ddynion eu swyddi

Ail-agorwyd y safle ar 25 Mai 1972 fel Amgueddfa Chwarela Gogledd Cymru. Ers hynny, mae bron i 3 miliwn o bobl wedi ymweld â’r Amgueddfa, sy’n un o saith safle Amgueddfa Cymru, gan gerdded trwy’r fynedfa fwaog wych er mwyn profi a dysgu mwy am hanes diwydiant llechi pwysig yr ardal hon.

Mae'r arddangosfa'n edrych yn fanylach ar yr hyn sydd wedi digwydd ar y safle dros y pedwar degawd diwethaf, o ddyddiau cynnar y 70au i ymweliadau gan y Teulu Brenhinol, ac o'r ailddatblygiad mawr gwerth £2 miliwn ar ddiwedd y 90au i gyflwyno mynediad am ddim yn y mileniwm newydd.

Mae'r arddangosfa hefyd yn olrhain sefydlu’r Amgueddfa ac yn ystyried rôl amgueddfeydd yn ein cymunedau heddiw. Bydd yn cynnwys gwaith gan ysgolion lleol a fu’n gweithio ar broject cyfryngau cymysg o’r enw FY AMGUEDDFA I.

Gweithgareddau ychwanegol:

26 Mai: Parti Pen-blwydd! Gweithgareddau i’r teulu oll, gan gynnwys gweithdai addurno llechi, gweithdai graffiti, adloniant a theithiau tywys a sgyrsiau ar hyd a lled y safle, a digonedd o gacen!

27 Hydref: Darlith gan Dr Dafydd Roberts, Ceidwad yr Amgueddfa: Cloddio’r Gorffennol – dathlu pen-blwydd ein hamgueddfeydd llechi yn 40 oed.