Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau
English
Pawb / Am ddim / I archebu lle am ddim, cysylltwch a Theatr y Grand (01792) 475715 o 23 Gorffennaf

Cyngerdd a chartwnau: 'Jerry The Troublesome Tyke'

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 17 Hyd 2012, 7pm

Mae seren gart?n goll Cymru’n camu i’r llwyfan unwaith eto, 90 mlynedd wedi iddo adael sgrin y sinema.

Prin yw’r bobl sydd wedi clywed am Jerry the Troublesome Tyke, ci wedi’i animeiddio a arloesodd ar sgrin fawr Sinema Capitol Caerdydd yn y 1920au.

Bellach, mae penodau o waith unigryw y taflunydd Sid Griffiths wedi cael eu hachub a’u hadfer yn ddigidol ac mae John Rea, cyfansoddwr sydd wedi ennill gwobr BAFTA Cymru, wedi cyfansoddi cerddoriaeth newydd sbon ar gyfer cerddorfa siambr.

Bydd y rhain yn cael eu perfformio yn fyw am y tro cyntaf yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Dyma fydd y tro cyntaf i dair o’r sgorau gael eu perfformio, felly cewch y fraint o glywed tri gwaith newydd sbon.

Yn ystod y noson hefyd bydd y cynhyrchydd ffilmiau adnabyddus Paul Islwyn Thomas, a gomisiynodd ac a ddangosodd y ffilmiau yn ystod ei gyfnod fel Pennaeth Cerddoriaeth a Chelf BBC Cymru, yn adrodd straeon diddorol am y ffilmiau eu hunain, nodweddion ffilmiau animeiddio cynnar, a’r ychydig a wyddom am fywyd Sid.

Dewch draw i fwynhau anturiaethau gwallgof Jerry i gyfeiliant cerddorfa fyw, a thorri’ch bol yn chwerthin!

Ar y cyd â G?yl Gerddoriaeth a Chelfyddydau Abertawe.