Gemau Heb Ffiniau: Rhufain a Gemau Zeus
Beth oedd y Gemau Olympaidd Hynafol? Sut wnaethon nhw ysbrydoli ein Gemau Olympaidd ni heddiw?
Dyma arddangosfa am y Gemau Hynafol gafodd eu cynnal am y tro cyntaf yng Ngwlad Groeg bron i 3,000 o flynyddoedd yn ôl ac am effaith syfrdanol y Rhufeiniaid arnynt.
Sut wnaeth yr Ymerawdwr Nero ennill 1808 o gystadlaethau yn y gemau? Pam fod yr enillwyr yn gwisgo coron o ddail olewydden? Dewch i fwynhau hanes y Gemau cynnar.
Nid dim ond cystadlaethau chwaraeon oedd yn y Gemau Hynafol Olympaidd. Cynhaliwyd cystadlaethau celf, barddoniaeth a cherdd hefyd.
OEDDECH CHI'N GWYBOD...?
O dorri’r rheolau yn y Gemau byddai hyn yn sarhad ar y duwiau.
Os byddai’r athletwyr yn twyllo, bydden nhw’n cael eu chwipio a byddent yn gorfod talu dirwy. Defnyddiwyd arian y dirwyon hyn i dalu am ddelw i’r duw Zeus.
Mae athletwyr modern yn tyngu llw yn erbyn defnyddio cyffuriau i wella’u perfformiad. Yn y Gemau Olympaidd Hynafol, byddai’r athletwyr yn tyngu llw i’r duw mawr Zeus yn erbyn defnyddio hud, llwgrwobrwyo a melltithion.
Roedd y Groegwyr yn defnyddio llwch i amsugno’r chwys dan eu ceseiliau.
Ar ôl i diwnig athletwr gwympo lawr mewn ras, roedd pob athletwr a gymrodd ran yn y Gemau Olympaidd wedyn yn gwbl noeth.
I ddysgu mwy yn ystod eich ymweliad, defnyddiwch Bluetooth ar eich ffôn poced a dewis y geiriau glas.
Gofynnwch wrth y dderbynfa am ragor o wybodaeth.

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau





