Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau
Pawb / Am ddim

Rhufeiniaid yn y Dre

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 127 Awst 2012, 11am - 4pm Llun - Sadwrn, 2 - 4pm Sul

Dewch i gwrdd â’n Rhufeiniaid. Hyfforddwch gyda’r milwyr, gwylio crefftwyr Rhufeinig wrth eu gwaith neu ymweld â’n ‘Popina’ am flas ar fwyd brys Rhufeinig.

Does dim dal pa gymeriadau y dewch chi ar eu traws yn yr Amgueddfa… masnachwyr, doctoriaid neu filwyr hyd yn oed! Sgwrsiwch â nhw am eu bywydau a rhowch dro ar weithgareddau Rhufeinig.

Bron i ddwy fil o flynyddoedd yn ôl roedd caer fawr yng Nghaerllion oedd yn gwarchod tir  Ymerodraeth Rufain.

Roedd yn gartref i fwy na phum mil o filwyr a'r tu allan i'w muriau bu'r bobl leol yn ennill bywoliaeth drwy weithio'n ddygn.

Dewch i gyfarfod â rhai o'r bobl hyn a dysgu mwy am eu bywydau o 1 i 27 Awst yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru. Bydd ein gardd Rufeinig yn ymfywiogi gyda phob math o gymeriad lliwgar.

Mae Marcws y garddwr cyfeillgar yn ddigon amlwg. Bu'n gleddyfwr yn ôl y sôn. Os ydych yn sâl ewch i Fictoria'r feddyges a bydd yn defnyddio perlysiau i'ch gwella.

Mae Fflafia ac Olifia'n sgwrsio gyda'r milwyr neu'n gweini gwin yn y dafarn, Y Baedd bodlon. Yma gallwch gamblo gyda'r milwyr ond cadwch lygad barcud am ganwriaid am fod hapchwarae yn erbyn y gyfraith!

Mae'r fyddin yn recriwtio felly beth am ymuno? Bargeiniwch gyda'r stondinwyr yn y farchnad neu gwyliwch y crefftwyr wrth eu gwaith.

Dewch i weld y Fonesig Helena yn ei fila, ymlaciwch ar ei gorweddfainc ac ymunwch â gwledd Rufeinig go iawn.

Bydd yr haf yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yn gyfle i chi gyfarfod â'r Rhufeiniaid sydd yn y dref cyn eu bod yn cael eu llyncu i niwl hanes unwaith eto.

Nid yw pob cymeriad a chrefftwr ar gael bob dydd.