Gemau
[delwedd: ]
Neil McCain
Gemau - arddangosfa celf gwydr unigryw mewn arddangosfa ar y cyd rhwng Ysgol Gelf Abertawe ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau a’r British Society of Master Glass Painters.
Wedi derbyn dros 60 gwaith, dewiswyd y 37 panel mwyaf trawiadol i’w harddangos gan panel o bedwar beirniad o Ysgol Gelf Abertawe, Amgueddfa Cymru, y British Society of Master Glass Painters a'r Mission Gallery yn Abertawe.
Dywedodd Chris Bird-Jones, Cyfarwyddwr Rhaglen Wydr MA Prifysgol Fetropolitan Abertawe: “Mae’n wych gallu trefnu’r arddangosfa wydr genedlaethol, llawn bri hon. Rydyn ni’n chwilio’n barhaus am ffyrdd amserol o ymgysylltu â’n cynulleidfa, ac roedd gennym ffocws creadigol yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau – y Gemau Olympaidd yn Llundain – oedd yn galluogi ein myfyrwyr a’n cyn fyfyrwyr i greu paneli newydd i’w harddangos ochr yn ochr â’r British Society of Master Glass Painters.”
Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau