Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau

Amgueddfa Cymru

Oedolion / Am ddim

Noson ‘Pwy yw’r Llofrudd?’

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 7 Medi 2012, 7pm

[delwedd: ]

(Wedi'i Ganslo)

Chicago, y 1920au. Gyda’r gwaharddiad yn ei le, y ‘mob’ sy’n deyrn a dim yfed yw’r drefn. Ond yng nghlwb yfed Miss Dixie yn Chicago, mae drwg yn y caws. Oes criw newydd yn y dref am waed ‘Y Meistr’? Neu ydy’r llofrudd llwfr yn cuddio yn ein plith…

Dewch i fwynhau swper bys a bawd a noson o hwyl yr haf yn ein Oriel Warws, gyda dos o ddychryn, drwgdybiaeth a drygioni i’ch diddanu hefyd.

Croeso i chi wisgo gwisg ffansi.

Tocynnau: cynnig cyw cynnar arbennig: £29.50 (rhaid archebu erbyn dydd Gwener 17 Awst). Ar ôl 17 Awst: £35.

Mae pris y tocyn yn cynnwys swper bys a bawd a gwydraid o Pimms wrth gyrraedd.