Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau
Oedolion / £5 / Rhaid archebu: (029) 20 573600. Gallwch archebu lle o 6 Awst

Gwneud a Thrwsio – Awn am Asia

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 1 Medi 2012, 1.30pm

Twriwch trwy fasgedi o hen betheuach a’u troi’n rhywbeth newydd a gwahanol yn ein gweithdai ailgylchu misol i oedolion.

Asia yw’r cam nesaf ar ein taith o gwmpas y byd. Dyma wlad sy’n enwog am gynhyrchu tecstilau llachar a hardd, yn aml gan ddefnyddio dulliau traddodiadol printio â blociau.

Gan ddefnyddio paent ffabrig, stampiau rwber a blociau printio traddodiadol – neu greu blociau arbennig o datws – byddwn yn dylunio ac yn creu sgarff arbennig.

Darperir deunyddiau / Croeso i bawb o bob gallu.