Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau
Teuluoedd / Am ddim

WALL-E (U, 2008)

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 19 Awst 2012, 2.30pm

Wall-E yw’r robot olaf ar wyneb y ddaear ac mae tipyn o gyfrifoldeb ar ei ysgwyddau - mae’n dal dyfodol y Ddaear a dynol ryw yng nghledr ei law metel.

O’r 700 o robotiaid gafodd eu creu 700 mlynedd yn ôl i lanhau llanast amgylcheddol pobl y ddaear, Wall-E yw’r unig un sydd ar ôl.

Tra fo pobl y ddaear yn mwynhau gwyliau hir ar long ofod moethus Axiom, mae Wall-E’n gweithio’n gydwybodol i gywasgu’r sbwriel, a neb ond ei chwilen ddu anwes yn gwmni iddo.

Pan ddaw EVE, prôb robotig yr Axiom, ar ei thaith reolaidd i’r ddaear mae Wall-E wrth ei fodd ac yn ysu am gael arddangos ei gasgliad o drugareddau dynol iddi.

Ond mae gan EVE ei syniadau ei hun am gasgliad Wall-E, ac mae hi’n dianc ar ruthr i’w ddangos i gapten yr Axiom - gyda Wall-E’n dynn ar ei sodlau.

Yn sydyn, mae’r byd dynol ben ei waered ac mae’n rhaid i’r capten, Wall-E a chriw o gyfeillion arbennig eraill gydweithio i arwain y bobl yn ôl i’w cartref ar y ddaear.(98 munud)