Pobl ifanc / Am ddim / Rhaid archebu: 02920 573600
Steil ‘Shabby Chic’ yr Haf i Arddegwyr – Pinfyrddau a Phincysau
Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 11 Awst 2012,
1.30pm
Ymunwch â’r dylunydd ffasiwn eco Helen Stew ar gyfer ein cyfres o weithdai ailgylchu wythnosol dros yr haf.
Byddwn yn troi hen betheuach yn ategolion ffasiynol a deniadol.
Drwy orchuddio byrddau pren gyda hen ddefnydd a rhubanau byddwn yn creu pinfwrdd hardd ar gyfer eich ystafell.
Yna byddwn yn troi hen gwpan yn bincws hyfryd ar gyfer eich projectau gwnïo eraill.
Darperir deunyddiau, croeso i bawb o bob gallu.
Mae’r gweithdy hwn ar gyfer pobl yn eu harddegau yn bennaf.

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau