Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau
Teuluoedd / Am ddim / Rhaid archebu: 02920 573600

Sgiliau Chwaraeon Anghyffredin

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 29 Gor 2012, 11am, 12pm, 1.30 pm and 3.30pm (Gweithdu) 11.30am, 12.30pm, 2pm a 3pm

Dyma’r dewis amgen i’r gemau yn Llundain, dewch i weld tri gwr doeth sydd ar frig eu campau yn arddangos eu triciau pêl-droed, pêl-fasged a beicio BMX.

Bydd cyfle hefyd i ymarfer eich sgiliau a thriciau pêl-fasged a phêl-droed chi (rhaid archebu lle).

Ash 'A-R' Randall – Triciau a Sgiliau Pêl-droed – mae gan Ash 3 Record y Byd Guinness ac fe’i gwelwch mewn gwahanol hysbysebion teledu ym mhob cwr o’r byd gyda Wayne Rooney, Thierry Henry, Fernando Torres a’u tebyg. Mae hefyd wedi perfformio yn ystod egwyl hanner amser o flaen 50,000 a mwy o bobl.

Tom 'Con Man' Connors – Triciau a Sgiliau Pêl-fasged – Pencampwr Ewropeaidd Pêl-fasged Stryd, mae ganddo 2 Record y Byd Guinness ac mae wedi ymddangos ar raglen deledu sianel Extreme Sports, Streetball Extreme.

Keelan 'Total' Phillips – Beiciwr BMX Tir Gwastad – Pencampwr BMX Tir Gwastad Ewrop ddwywaith, mae wedi dyfeisio dros 10 o driciau BMX Tir Gwastad ac wedi ymddangos ar raglen ddogfen Channel 4, Concrete Circus.