Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau

Amgueddfa Cymru

Pawb / Am ddim

Ffilmiau Misol yn yr Amgueddfa: Chariots of Fire (PG 1981)

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 15 Gor 2012, 2pm

[delwedd: ]

Cyfle i wylio clasur o ffilm ar y sgrîn fawr yn Oriel y Warws yn rhad ac am ddim!

Enillydd pedwar Oscar gan gynnwys y Ffilm Orau, Chariots of Fire yw stori wir ac ysbrydoledig Harold Abrahams, Eric Liddell a’r tîm a enillodd un o fuddugoliaethau enwocaf Prydain ym myd chwaraeon.

Mae athletwyr gorau’r Prydain wedi cychwyn eu taith i fuddugoliaeth yng Ngemau Olympaidd 1924. Daw’r llwyddiant â bri i’r genedl. I ddau redwr, her bersonol sy’n eu hwynebu.

(124 munud)

Cynhelir Ffilmiau Misol yn yr Amgueddfa bob ail Sul y mis.