Tu ôl i’r Llenni: Bioamrywiaeth
Llygadu gwrachod lludw
Mae pawb yn gyfarwydd â gwrachod lludw, ond oeddech chi’n gwybod bod 37 math gwahanol yn y DU. Mwy na thebyg bod tri math gwahanol yn eich gardd, a gall fod llawer mwy. Bydd y gweithdy hwn yn edrych ar wrachod lludw ac yn rhoi cyflwyniad i chi i’w morffoleg a sut i’w hadnabod.
Sylwer: byddwch yn trin esiamplau byw yn ogystal â rhai sbesimenau wedi’u cadw. Byddwch yn defnyddio microsgop yn y gweithdy hefyd.
Mae’n bosibl y bydd rhai teithiau’n anaddas i ymwelwyr sydd â phroblemau symudedd. Ffoniwch (029) 2057 3148 am gyngor.

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau





