Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau
Oedolion / Am ddim / Rhaid archebu. Archebwch wrth y Dderbynfa

Tu ôl i’r Llenni: Bioamrywiaeth

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 2 Hyd 2012, 1.05pm (Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar agor ar y rhan fwyaf o Wyliau Banc, gwiriwch cyn ymweld i wneud yn siŵr y bydd yr Amgueddfa ar agor.)

Llygadu gwrachod lludw

Mae pawb yn gyfarwydd â gwrachod lludw, ond oeddech chi’n gwybod bod 37 math gwahanol yn y DU. Mwy na thebyg bod tri math gwahanol yn eich gardd, a gall fod llawer mwy. Bydd y gweithdy hwn yn edrych ar wrachod lludw ac yn rhoi cyflwyniad i chi i’w morffoleg a sut i’w hadnabod.

Sylwer: byddwch yn trin esiamplau byw yn ogystal â rhai sbesimenau wedi’u cadw. Byddwch yn defnyddio microsgop yn y gweithdy hefyd.

Mae’n bosibl y bydd rhai teithiau’n anaddas i ymwelwyr sydd â phroblemau symudedd. Ffoniwch (029) 2057 3148 am gyngor.