Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau
English
Pawb / Am ddim / Rhaid archebu. Archebwch wrth y Dderbynfa

Sgwrs Amser Cinio: Archaeoleg

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 10 Hyd 2012, 1.05pm (Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar agor ar y rhan fwyaf o Wyliau Banc, gwiriwch cyn ymweld i wneud yn siŵr y bydd yr Amgueddfa ar agor.)
Pygiau jygiau
Pygiau jygiau

Potiau Lleol i Bobl Leol: astudio deunydd ceramig canoloesol yn ne Morgannwg

Gyda Alice Forward, Myfyrwraig Doethuriaeth, Prifysgol Caerdydd.

Crochenwaith y Fro yw’r enw cyffredinol ar jygiau a jariau y credwyd iddynt gael eu creu’n lleol ym Mro Morgannwg.

Er ei bod yn rhanbarth oedd ddim yn cynhyrchu cerameg, o ddiwedd cyfnod y Rhufeiniaid hyd ddechrau’r 12fed ganrif, mae gan dde Morgannwg draddodiad cerameg adnabyddadwy iawn gafodd ei bennu gyntaf tua diwedd y 1970au.

Hyd yn hyn, does dim tystiolaeth am odynau a safleoedd cynhyrchu wedi dod i’r fei ar gyfer y deunydd hwn.

Fodd bynnag, cafodd gwastlestri – llestri wedi eu tanio’n wael ac oedd wedi eu torri sy’n gysylltiedig â safleoedd cynhyrchu – eu darganfod yn nhiroedd Ysgol Eglwys Gadeiriol Llandaf ddeng mlynedd yn ôl.

Caiff dau gasgliad eu trafod yn ystod y sgwrs hon, Cosmeston: safle sydd wedi ei gloddio’n achlysurol dros y 30 mlynedd diwethaf gan gynhyrchu’r casgliad mwyaf o ddeunydd canoloesol o safle yn ne Morgannwg, a safle posibl yr odyn yn Ysgol Eglwys Gadeiriol Llandaf.

Y safleoedd hyn fu’r sail dros ail-ystyried Crochenwaith lleol y Fro.

Drwy gymharu deunydd gwastlestri o Landaf â llestri y cafwyd hyd iddynt yn Cosmeston gan ddefnyddio dadansoddiad petrograffig a microsgopeg optegol, gall amrywiadau posibl yng ngwneuthuriad y clai awgrymu safleoedd cynhyrchu eraill.