Sgwrs Amser Cinio: Archaeoleg
Potiau Lleol i Bobl Leol: astudio deunydd ceramig canoloesol yn ne Morgannwg
Gyda Alice Forward, Myfyrwraig Doethuriaeth, Prifysgol Caerdydd.
Crochenwaith y Fro yw’r enw cyffredinol ar jygiau a jariau y credwyd iddynt gael eu creu’n lleol ym Mro Morgannwg.
Er ei bod yn rhanbarth oedd ddim yn cynhyrchu cerameg, o ddiwedd cyfnod y Rhufeiniaid hyd ddechrau’r 12fed ganrif, mae gan dde Morgannwg draddodiad cerameg adnabyddadwy iawn gafodd ei bennu gyntaf tua diwedd y 1970au.
Hyd yn hyn, does dim tystiolaeth am odynau a safleoedd cynhyrchu wedi dod i’r fei ar gyfer y deunydd hwn.
Fodd bynnag, cafodd gwastlestri – llestri wedi eu tanio’n wael ac oedd wedi eu torri sy’n gysylltiedig â safleoedd cynhyrchu – eu darganfod yn nhiroedd Ysgol Eglwys Gadeiriol Llandaf ddeng mlynedd yn ôl.
Caiff dau gasgliad eu trafod yn ystod y sgwrs hon, Cosmeston: safle sydd wedi ei gloddio’n achlysurol dros y 30 mlynedd diwethaf gan gynhyrchu’r casgliad mwyaf o ddeunydd canoloesol o safle yn ne Morgannwg, a safle posibl yr odyn yn Ysgol Eglwys Gadeiriol Llandaf.
Y safleoedd hyn fu’r sail dros ail-ystyried Crochenwaith lleol y Fro.
Drwy gymharu deunydd gwastlestri o Landaf â llestri y cafwyd hyd iddynt yn Cosmeston gan ddefnyddio dadansoddiad petrograffig a microsgopeg optegol, gall amrywiadau posibl yng ngwneuthuriad y clai awgrymu safleoedd cynhyrchu eraill.

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau