Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau

Amgueddfa Cymru

Pawb / Am ddim / Rhaid archebu. Archebwch wrth y Dderbynfa

Sgwrs Amser Cinio: Archaeoleg

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 24 Hyd 2012, 1.05pm (Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar agor ar y rhan fwyaf o Wyliau Banc, gwiriwch cyn ymweld i wneud yn siŵr y bydd yr Amgueddfa ar agor.)

[delwedd: ]

[delwedd: ]

Ar ôl y parti? Tomen a safle gwledda’r Oes Haearn yn Llanmaes, Bro Morgannwg

Gyda Adam Gwilt a Mark Lodwick

Gyda’r gwaith maes ar y project hwn sydd dan arweiniad Amgueddfa Cymru wedi dirwyn i ben, bydd Adam Gwilt yn cyflwyno trosolwg o’r canfyddiadau pwysig a wnaed yn ystod gwaith cloddio diweddar yn Llanmaes, Bro Morgannwg rhwng 2003 a 2010.

Bydd yn son yn fras am archwiliadau i safle gwledda a gynhyrchodd weddillion eithriadol o esgyrn moch, crochanau a bwyelli soced efydd, ac anheddiad Oes Efydd a ddarganfuwyd oddi tano.

Mae cloddiadau ychwanegol o gofeb claddu Oes Efydd gerllaw a lloc Oes Haearn a Rhufeinig wedi helpu i leoli’r safle gwledda o fewn ei leoliad hynafol.

Fel y dengys y sgwrs hon, mae’r project wedi bod yn arena awyr agored gyfoethog i weithio ynddi ac mae wedi bod yn labordy ar gyfer creadigrwydd ac ymgysylltu ag ysgolion a’r gymuned.