Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau
Oedolion yn unig / £5

Gwneud a Thrwsio – Gwynt y Gogledd

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 15 Medi 2012, 1.30pm (Nodyn. Ar gau Dydd Llun a Dydd Sul Hydref–Mawrth)

Twriwch trwy fasgedi o hen betheuach a’u troi’n rhywbeth newydd a gwahanol yn ein gweithdai ailgylchu misol i oedolion.

Wrth i’r hydref nesáu, byddwn yn bwrw’n golygon tua’r gaeaf ac at ffyrdd newydd o gadw’n gynnes yn yr Arctig a/neu orllewin Cymru.

Y mis hwn, byddwn yn defnyddio hen siwmperi i greu menig a chynheswyr coesau ac arddyrnau.

Darperir deunyddiau / Croeso i bawb o bob gallu.