Gweithdy Cerdd
Gweithdy i ddysgu mwy am dreftadaeth ein cerddoriaeth draddodiadol Gymreig.
Fiddlebox (George Whitfield a Helen Adam) fydd yn cynnal y digwyddiad fydd yn sesiwn ddwy awr o 1.30pm ymlaen. Byddwn yn rhannu’r gr?p yn ddau ddosbarth, y dechreuwyr a’r mwy profiadol.
Mae croeso i unrhyw un sydd eisiau blas ar gerddoriaeth Gymreig ymuno â ni ar gyfer y sesiwn i ddechreuwyr. Bydd yn addas i offerynwyr (dewch â’ch offeryn gyda chi!) neu unrhyw un sydd am ganu (darperir geiriau), chwarae offerynnau taro neu geisio dysgu alaw ar y chwiban dun. Mewn geiriau eraill, does dim angen profiad blaenorol i gymryd rhan.
Bydd y dosbarth arall ar gyfer y rheini sydd eisoes yn chwarae ychydig o gerddoriaeth Gymreig ac enw’r sesiwn fydd 'Rhoi bywyd i alaw'.

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau





