Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau
Pawb / £5 i oedolion, am ddim i blant / Rhaid archebu lle

Gweithdy Cerdd

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 6 Hyd 2012, 1.30 - 3.30pm (Nodyn. Ar gau Dydd Llun a Dydd Sul Hydref–Mawrth)
Gweithdy gyda Helen Adam
Gweithdy gyda Helen Adam

Gweithdy i ddysgu mwy am dreftadaeth ein cerddoriaeth draddodiadol Gymreig.

Fiddlebox (George Whitfield a Helen Adam) fydd yn cynnal y digwyddiad fydd yn sesiwn ddwy awr o 1.30pm ymlaen. Byddwn yn rhannu’r gr?p yn ddau ddosbarth, y dechreuwyr a’r mwy profiadol.

Mae croeso i unrhyw un sydd eisiau blas ar gerddoriaeth Gymreig ymuno â ni ar gyfer y sesiwn i ddechreuwyr. Bydd yn addas i offerynwyr (dewch â’ch offeryn gyda chi!) neu unrhyw un sydd am ganu (darperir geiriau), chwarae offerynnau taro neu geisio dysgu alaw ar y chwiban dun. Mewn geiriau eraill, does dim angen profiad blaenorol i gymryd rhan.

Bydd y dosbarth arall ar gyfer y rheini sydd eisoes yn chwarae ychydig o gerddoriaeth Gymreig ac enw’r sesiwn fydd 'Rhoi bywyd i alaw'.