Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau
Pawb / Am ddim

Ffarwel Gymru - Gweithio Dramor

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 9 Hyd31 Rha 2012, 10am - 5pm (Nodyn. Ar gau Dydd Llun a Dydd Sul Hydref–Mawrth)

Yn ystod y 19eg a'r 20ed ganrif, roedd miliynau o bobl ar draws y byd yn symud i wahanol wledydd i chwilio am waith.

Bydd yr arddangosfa hon yn trafod y bobl a ffarweliodd â Chymru gan ganolbwyntio ar y rhesymau diwydiannol dros fudo. Roedd gan bobl resymau diri dros adael Cymru. Aeth rhai dramor am fod galw mawr am y sgiliau arbenigol roeddent wedi'u meithrin yma yng Nghymru, a chyflog da yn gyfnewid amdanynt.

Cyn cyflwyno taliadau nawdd cymdeithasol yn y 1920au, roedd bod yn ddiwaith yn golygu bod heb arian. Os nad oedd gennych swydd, roedd rhaid mynd i chwilio am un - hyd yn oed os oedd rhaid teithio i wlad arall er mwyn gwneud hynny.

Ydy mudo wedi effeithio ar eich teulu chi? Ydy'ch cyndeidiau wedi gadael Cymru? Neu hyd yn oed wedi dod i Gymru oherwydd gwaith? A fyddech chi'n symud i fyw mewn gwlad arall?