Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau
I ysgolion ac i'r gymuned leol. / £5 yr oedolyn a £3 y plentyn / Rhaid archebu

Perfformiad gan Theatr Na n'Óg - Boddi'r Arandora Star

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 1721 Medi 2012, 10am a 1pm, 7pm ar nos Wener 21 Medi yn unig (Nodyn. Ar gau Dydd Llun a Dydd Sul Hydref–Mawrth)
Delweddau o’r cerflun teracota o Mair yn Dal yr Arandora Star gan yr artist Susanna Ciccotti.
Yr Arandora Star yn ei lifrai llwyd yn ystod y rhyfel gyda rhwydi gwrth-dorpedo MK11 (Doc rhif 7, Southampton, Mawrth 1940).

Pan gyhoeddodd yr Eidal ei bod yn ymuno â’r Ail Ryfel Byd yn ystod haf 1940, cafodd Eidalwyr oedd yn byw ym Mhrydain, gan gynnwys y teuluoedd hynny a ymsefydlodd yng nghymoedd y de, penderfynodd yr awdurdodau eu bo yn estron-elynion.

Mae’r ddrama’n dilyn hanes Lina, sy’n gweld ei thad yn cael ei arestio a’i lusgo o’u caffi. Cafodd ef, a 700 o Eidalwyr eraill, eu rhoi ar fwrdd yr Arandora Star a’u hanfon ar y daith i’w caethiwed yng Nghanada.

Ar 1 Gorffennaf 1940, cymrodd llong danfor Almaeneg mai cludo milwyr oedd yr Arandora Star ac fe'i saethwyd â thorpido a’i boddi ar arfordir Iwerddon. Bu farw 446 o ddynion Eidaleg.

Mae’r ddrama’n seiliedig ar stori wir a bydd yn ystyried bywydau mewnfudwyr yng Nghymru adeg rhyfel ac yn dilyn ymgais Lina i ddarganfod y gwir ac i ddod o hyd i’w thad.

Bydd perfformiadau dydd Llun 17 Medi 2012 yn Saesneg yn unig ac ar gyfer ysgolion yn bennaf.

Bydd perfformiadau dydd Mawrth 18 Medi tan ddydd Iau 20 Medi yn Gymraeg ac ar gyfer ysgolion yn bennaf. Bydd perfformiadau dydd Gwener 21 Medi yn Gymraeg ac ar gyfer ysgolion a’r gymuned leol. Mae Pecyn Llythrennedd gan Chris S. Stephens ar gael i ysgolion i gyd-fynd â gwaith dosbarth.

Theatr Na n'Óg