'Wales Breaks its Silence… from Memories to Memorial'
Mae’r arddangosfa hon yn adrodd hanes trasig suddo’r SS Arandora Star ym 1940 pan gollodd 53 o Gymry o dras Eidalaidd eu bywydau
Roeddent yn cael eu trosglwyddo i garchardai rhyfel yng Nghanada dan orchymyn Llywodraeth Prydain yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Daw hanes trasig yr SS Arandora Star, gan gynnwys straeon rhai o’r gw?r a foddodd ac a oroesodd, yn fyw mewn arddangosfa fechan o’r enw Wales Breaks its Silence… From Memories to Memorial.
Roedd yr Arandora Star yn cludo cannoedd o garcharorion o wahanol wledydd i Ganada, ond cafodd ei suddo gan U-boat a’i thorpido gan achosi i dros 800 golli eu bywydau.
Cafodd y carcharorion a oroesodd eu cludo yn ôl i’r DU a’u hanfon yn syth i garchardai rhyfel yn niffeithwch Awstralia.
Roedd yr Arandora Star yn cario cannoedd o garchororion o wahanol genedligrwydd i Ganada pan y cafodd ei boddi gan long danfor gan arwain at gannoedd o farwolaethau. Cafodd y carcharorion a oroesodd ei tywys yn ôl i ynysoedd Prydain a'u hanfon yn syth i wersylloedd caethiwo ym mherfeddwlad Awstralia.
Crëwyd yr arddangosfa gan Arandora Star Memorial Fund in Wales, ac mae’n ailadrodd yr hanes coll hwn.
Bydd casgliad o ffotograffau yn adlewyrchu peth o hanes yr Eidalwyr a ymsefydlodd yn ne Cymru, ynghyd â hanesion personol rhai a oroesodd ac erthyglau papur newydd angerddol yn rhoi manylion y gw?r a foddodd.
Bydd sawl gwrthrych yn cael eu harddangos, er enghraifft, model mawr o’r SS Arandora Star – cyn iddi gael ei phaentio yn llwyd ar gyfer ei gwaith yn y rhyfel – sydd ar fenthyg gan Mr George Hill o Abertawe. Bu farw tad-cu Mr Hill, Michele Di Marco, ar yr Arandora Star.

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau