Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau

Amgueddfa Cymru

Pawb / Am ddim / Rhaid archebu'ch lle

Teithiau Tywys o gwmpas Dre-fach Felindre

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 1, 15 a 29 Awst 2012, 10.30am (Nodyn. Ar gau Dydd Llun a Dydd Sul Hydref–Mawrth)

[delwedd: Taith Gerdded 2010]

Taith Gerdded 2010

Bydd pob taith yn para tua awr a hanner ac yn cychwyn o Amgueddfa Wlân Cymru am 10.30am.Dyma rai canllawiau:

Gair i gall

  • Mae rhai llwybrau’n fwdlyd ac yn anwastad felly gwisgwch ddillad ac esgidiau addas. Byddwn yn cerdded ar y ffordd mewn rhai mannau a does dim pafin. Byddwn yn croesi’r ffordd ar brydiau, felly cymrwch ofal.
  • Bydd Swyddog Cymorth Cyntaf cymwys ar y daith a Phecyn Cymorth Cyntaf ar gael rhag ofn y bydd ei angen.
  • Bydd y tywyswyr yn gwisgo siacedi llachar amlwg.
  • Mae’r llwybr yn gymharol anodd ac mae’n cynnwys rhai rhiwiau.
  • Nid yw’r llwybr yn addas i gadeiriau olwyn na phramiau.
  • Nid yw’r daith yn addas ar gyfer cadair olwyn na phramiau.
  • Byddwn yn croesi buarth fferm mewn un rhan. Rydym wedi cael caniatâd arbennig gan y ffermwr i gerdded ar ei dir am fod y llwybr cyhoeddus yn fwdlyd iawn. Pe baech yn dilyn y llwybr hwn eto yn y dyfodol, defnyddiwch y llwybr cyhoeddus os gwelwch yn dda.
  • Byddem yn ddiolchgar pe na baech yn dod â’ch c?n gyda chi ar y daith.

Cymrwch ofal a mwynhewch y daith!