Cyfres Ddarlithoedd yr Amgueddfa Gelf Genedlaethol 2012 – gyda chymorth y Gronfa Gelf
© Tim Davies
John Piper
Olew ar gynfas ar fwrdd
Ar fenthyg o gasgliad preifat
© Ystâd John Piper
Theatr Reardon Smith
6.30pm, Tocynnau £5 / Gostyngiad £4
Mae tocynnau ar gael o'r Gronfa Gelf: 0844 415 4100
25 Ebrill
David Alston, Cyfarwyddwr y Celfyddydau, Cyngor Celfyddydau Cymru, yn siarad â Merlin James, Laura Ford a Tim Davies..
Sefydlwyd Biennale Fenis ym 1895 ac mae’n parhau yn un o ddigwyddiadau pwysicaf a mwyaf mawreddog y byd celf cyfoes, rhyngwladol.
Ers 2003 mae Cymru wedi cael ei chynrychioli fel gwlad ar ei phen ei hun. I’r artistiaid gaiff eu dewis, mae’n gyfle i arddangos ar lwyfan rhyngwladol allweddol. Bydd y ddarlith hon yn archwilio cynrychiolaeth Cymru yn Fenis ac yn clywed gan dri artist a ddewiswyd i arddangos ar ran Cymru.
9 Mai
John Piper - artist oes ac amser
Pwy oedd John Piper, sut ddaeth e mor enwog yn ei ddydd, a pam mae cymaint o bwyslais wedi bod ar ei waith mewn llyfrau, trafodaethau diwylliannol ac arddangosfeydd celf ers ei farw ym 1992?
Ymddengys bod Piper bellach yn ffigwr allweddol yn hanes celf Prydain yr ugeinfed ganrif. Roedd yn frwd dros gelf newydd, ond roedd ganddo ddiddordeb yn y gorffennol hefyd ac aeth ati i geisio adfywio traddodiadau cynhenid mewn modd modern.
Bydd y sgwrs hon yn edrych ar gyfraniad Piper tuag at y newid diwylliannol a gyrhaeddodd ei uchafbwynt yn y 1940au, ac a fu’n feiddgar, yn amserol ac yn angenrheidiol, ac o bwys diwylliannol diamheuol.
23 Mai
Gyda Gaye Blake Roberts, Cyfarwyddwr, Amgueddfa Wedgwood.
Enillodd Josiah Wedgwood (1730-1795) glod fel ddyfeisiwr arloesol ym myd cerameg, ond hefyd fel adwerthwr a diwygiwr cymdeithasol.
Yn ei darlith, bydd Gaye yn trafod dylanwad y gwr hynod hwn gan gyfeirio at Gymru a’i diwydiant cerameg.
Gostyngiadau i: ddeiliaid y National Art Pass, Noddwyr Amgueddfa Cymru, Cyfeillion Amgueddfa Cymru, Myfyrwyr, yr Anabl, Pensiynwyr a’r Digyflog.


Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau