Ty Ffoaduriaid
Arddangosfa i gyd-fynd ag Wythnos Ffoaduriaid.
Mae Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches o Gaerdydd a Chasnewydd wedi adeiladu t? yn Oriel 1.
Mae’r t? a’i gynnwys yn adrodd stori eu siwrneiau hir ac weithiau peryglus i Gymru, am geisio lloches, ac am fyw yma wedyn.
Mae’r prosiect yn gydweithrediad rhwng Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Oasis Caerdydd, Cymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Gwent (Gwasanaeth Cefnogi Ceiswyr Lloches Ifanc, Casnewydd), ac mae wedi’i ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Digwyddiadau
Mehefin 2 11:00
Agoriad Swyddogol gan Gôr Habesha, o gymuned Eritreaidd Caerdydd.
Mehefin 16
Gweithdy gan Craftivist Collective, creu baneri protest bychain (angen archebu lle).
Mehefin 23-24
Perfformiadau, arddangosfeydd coginio, sgyrsiau, gweithdai a digwyddiadau.

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau





