Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau
Pawb / £5 / Gostyngiad £4 / Tocynnau ar gael o'r Gronfa Gelf: 0844 415 4100

Cyfres Ddarlithoedd yr Amgueddfa Gelf Genedlaethol: John Piper - artist oes ac amser

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 9 Mai 2012, 6.30pm (Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar agor ar y rhan fwyaf o Wyliau Banc, gwiriwch cyn ymweld i wneud yn siŵr y bydd yr Amgueddfa ar agor.)
John Piper, Tarddle’r Ddyfi, 1943-4
Tarddle’r Ddyfi, 1943-4
John Piper
Olew ar gynfas ar fwrdd
Ar fenthyg o gasgliad preifat
© Ystâd John Piper

Gyda’r Athro Frances Spalding, CBE

Pwy oedd John Piper, sut ddaeth e mor enwog yn ei ddydd, a pam mae cymaint o bwyslais wedi bod ar ei waith mewn llyfrau, trafodaethau diwylliannol ac arddangosfeydd celf ers ei farw ym 1992?

Ymddengys bod Piper bellach yn ffigwr allweddol yn hanes celf Prydain yr ugeinfed ganrif. Roedd yn frwd dros gelf newydd, ond roedd ganddo ddiddordeb yn y gorffennol hefyd ac aeth ati i geisio adfywio traddodiadau cynhenid mewn modd modern.

Mae’n anodd dadlau nad oedd Lloegr y 1930au yn brysur yn ceisio ‘darganfod ei hun’. Onid encilio cywilyddus oedd hyn fodd bynnag? Dychwelyd i’r gorffennol a’i draddodiadau diogel ac at feddylfryd y ‘Loegr Fach’ yn dilyn twf syniadaeth flaengar moderniaeth ryngwladol? Ar y llaw arall, oes cyfiawnhad dros y sôn heddiw am ddadeni Seisnig?

Bydd y sgwrs hon yn edrych ar gyfraniad Piper tuag at y newid diwylliannol a gyrhaeddodd ei uchafbwynt yn y 1940au, ac a fu’n feiddgar, yn amserol ac yn angenrheidiol, ac o bwys diwylliannol diamheuol.

Hanesydd, beirniad ac awdur cofiannau celf yw Frances Spalding sydd wedi ysgrifennu tipyn ar gelf Prydeinig yr ugeinfed ganrif, ac mae ar hyn o bryd yn Athro Hanes Celf ym Mhrifysgol Newcastle. Mae’n Gymrawd y Gymdeithas Lenyddiaeth Frenhinol ac yn Cymrawd Anrhydeddus y Coleg Celf Cenedlaethol. Yn 2011 cyhoeddodd fywgraffiad cynhwysfawr o fywyd a gwaith John Piper, John Piper, Myfanwy Piper: Lives in Art.

Gyda chymorth y Gronfa Gelf.