Cyfres Ddarlithoedd yr Amgueddfa Gelf Genedlaethol: Cynyrchioli Cymru ym Miennale Fenis
© Laura Ford
© Tim Davies
David Alston, Cyfarwyddwr y Celfyddydau, Cyngor Celfyddydau Cymru, yn siarad â Merlin James, Laura Ford a Tim Davies.
Sefydlwyd Biennale Fenis ym 1895 ac mae’n parhau yn un o ddigwyddiadau pwysicaf a mwyaf mawreddog y byd celf cyfoes, rhyngwladol.
Ers 2003 mae Cymru wedi cael ei chynrychioli fel gwlad ar ei phen ei hun. I’r artistiaid gaiff eu dewis, mae’n gyfle i arddangos ar lwyfan rhyngwladol allweddol. Bydd y ddarlith hon yn archwilio cynrychiolaeth Cymru yn Fenis ac yn clywed gan dri artist a ddewiswyd i arddangos ar ran Cymru.
Fel Cyfarwyddwr y Celfyddydau, mae David Alston yn gyfrifol am ddatblygu a hybu’r celfyddydau yng Nghymru. Mae ganddo dros 25 mlynedd o brofiad o reoli, arwain a chreu sefydliadau celfyddydol llwyddiannus. David oedd Ceidwad Celf Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol Cymru yn y 1990au ac yn ddiweddarach bu’n Brif Weithredwr amgueddfa Lowry yn Salford. Mae David wedi cael swyddi fel curadur ac fel rhan o Uwch Dîm Rheoli mewn orielau, amgueddfeydd a chanolfannau celfyddydol, gan gynnwys bod yn Is Gyfarwyddwr y Celfyddydau yn Sheffield a bu'n gweithio fel ymgynghorydd y celfyddydau a diwylliant ar ei liwt ei hun hefyd.
Cynrychiolodd Laura Ford (g. Caerdydd, 1961) Gymru ym 51fed Biennale Fenis yn 2005. Yn wreiddiol, bu’n astudio yn Academi Gelf Caerfaddon o 1978 cyn cwblhau gradd meistr yn Ysgol Gelf Chelsea ym 1983. Daeth Ford yn enwog yn 2000 pan gafodd ei gwaith ei arddangos yn y British Art Show 5. Caiff ei hystyried yn rhyngwladol fel un o gerflunwyr blaenaf Prydain a gellir gweld ei gwaith mewn casgliadau preifat a chyhoeddus gan gynnwys y Tate, Llundain, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Chasgliad y Cyngor Celfyddydau, Llundain.
Cynrychiolodd Merlin James (g. Caerdydd, 1960) Gymru ym 52fed Biennale Fenis yn 2007. Dechreuodd ei astudiaethau yn Athrofa Prifysgol Cymru ym 1978, gan raddio o’r Ysgol Gelf Ganolog ym 1982 a’r Coleg Celf Brenhinol ym 1986. Mae’n cael ei gynrychioli gan Sikkema Jenkins & Co., Efrog Newydd; Mummery+Schnelle, Llundain; Kerlin Gallery, Dulyn. Mae ei draethodau ar gelf hefyd wedi ymddangos yn rheolaidd mewn cylchgronau megis y Burlington Magazine, ac mae wedi ysgrifennu testun ar gyfer catalogau a llyfrau, gan gynnwys William Nicholson: A Catalogue Raisonné (Yale/Modern Art Press. 2011). Cynhaliwyd ei sioe unigol ddiweddaraf yn Oriel Douglas Hyde, Dulyn.
Dewiswyd Tim Davies (g. Hwlffordd, 1960) i gynrychioli Cymru ym 54 fed Biennale Fenis yn 2011. Wedi gweithio ac astudio yn Llundain a Norwich, dychwelodd i Gymru ym 1994. Enillodd gystadleuaeth Mostyn Open ym 1997, Medal Aur yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2003, a’i ddewis yn enillydd cyntaf Gwobr Gelf Weledol Artes Mundi yn 2004. Gellir gweld ei gwaith mewn casgliadau preifat a chyhoeddus gan gynnwys Casgliad y Cyngor Celfyddydau, Llundain; Oriel Glynn Vivian, Abertawe ac Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Mae wedi ennill enw da yn rhyngwladol drwy gydag ystod eang o waith mewn amrywiaeth o gyfryngau gan gynnwys darlunio, ffilm a gosodiadau.
Gyda chymorth y Gronfa Gelf.

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau