Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau

Amgueddfa Cymru

Pawb / Am ddim

The Exhibitionists

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 23 Meh19 Awst 2012 (Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar agor ar y rhan fwyaf o Wyliau Banc, gwiriwch cyn ymweld i wneud yn siŵr y bydd yr Amgueddfa ar agor.)

Mae Amgueddfa Cymru wedi rhoi mynediad at y casgliad celf cenedlaethol i bum aelod o’r cyhoedd.

Fel rhan o gyfres celf arloesol newydd BBC Wales The Exhibitionists, rydyn wedi agor y drysau i drysorau’r casgliad cenedlaethol.

Cafodd dau o’r pum gyfle i guradu arddangosfa yn yr Amgueddfa fydd i’w gweld yr haf hwn.

Bydd cyfres bedair rhan yn cael ei darlledu ar BBC 2 Cymru o 27 Mehefin ac yn dilyn pum unigolyn heb gefndir celfyddydol ffurfiol wrth i dasgau amrywiol gael eu gosod.

Dyma’r tro cyntaf erioed i amgueddfa roi cymaint o ryddid i aelodau’r cyhoedd bori drwy gasgliadau mor bwysig; i’w trin, eu trafod a’u harddangos.


[delwedd: ]

Mae dau ffigwr blaenllaw o fyd celf Cymru yn rhoi help llaw i’r pum cystadleuydd.

Artist Cymreig uchel ei barch yw Osi Rhys Osmond sydd hefyd yn Uwch Ddarlithydd Celf ym Mhrifysgol Abertawe. Curadur Arddangosfeydd yn Oriel Gelf Glyn Vivian, Abertawe, yw Karen MacKinnon ac mae wedi bod yn guradur sioeau ledled y byd, gan gynnwys pafiliwn Cymru yn sioe gelf fwyaf y byd, Biennale Fenis.

Caiff casgliad gwych o gelf ei arddangos yn Amgueddfa Cymru gan gynnwys gweithiau gan Van Gogh, Monet, Turner a Picasso, ond anaml y bydd y cyhoedd yn cael cyfle i weld nifer o’r gweithiau eraill sy’n cael eu cadw’n yr un storfeydd, tan nawr.

Caiff y cystadleuydd fynediad di-ail at baentiadau, cerfluniau a cherameg yr Amgueddfa wrth iddyn nhw gystadlu yn erbyn eu gilydd am y wobr fawr – sioe eu hunain yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Bydd curaduron proffesiynol yn treulio blynyddoedd yn trefnu arddangosfeydd celf, ond dau gystadleuydd terfynol y rhaglen sydd yng ngofal yr arddangosfa hon.

I weld y paentiadau olew o'r gyfres ewch i wefan Your Paintings y BBC.

Dilynwch hynt a helynt y sioe ar Twitter @bbcwalesarts neu ewch i wefan The Exhibitionists.