Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn Veolia Environnement
[delwedd: Relaxation � Jasper Doest (Yr Iseldiroedd)]
Relaxation – Jasper Doest (Yr Iseldiroedd)
[delwedd: Lookout for lions — Charlie Hamilton James (Prydain)]
Lookout for lions — Charlie Hamilton James (Prydain)
[delwedd: Treading water – Charlie Hamilton James (Prydain)]
Treading water – Charlie Hamilton James (Prydain)
[delwedd: Fluff-up � John E Marriott (Canada)]
Fluff-up — John E Marriott (Canada)
Mae cystadleuaeth Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn Veolia Environnement gyda’r uchaf ei bri yn y maes, ac fel rhan o’r arddangosfa arbennig hon caiff rhai o’r ffotograffau gorau o fyd natur eu harddangos.
Mae’r arddangosfa fyd-enwog hon, sydd ar fenthyg gan yr Amgueddfa Hanes Natur, Llundain, yn cynnwys 100 o luniau anhygoel sy’n dangos agweddau ar fyd natur – o ymddygiad anifeiliaid i dirluniau gwyllt gwych.
Trwy lens ffotograffiaeth bywyd gwyllt, mae’r arddangosfa’n cyfleu harddwch a chyfaredd ein planed gan roi cipolwg i ni ar y byd naturiol trwy lygaid newydd.
Mae’r delweddau trawiadol yn aml yn procio’r meddwl ac yn rhoi cipolwg ar ddrama ac amrywiaeth byd natur.
Adolygodd y panel o feirniaid rhyngwladol dros 48,000 o gynigion gan ffotograffwyr amatur a phroffesiynol o 98 o wledydd yn 2012. Cafodd y ffotograffau eu dewis am eu creadigrwydd, eu celfyddyd a’u cymhlethdod technegol.
Cyflwynwyd y brif wobr i Paul Nicklen o Ganada am ei lun Bubble jetting emperors, llun aruthrol o anhrefn byd y pengwiniaid ymerodrol dan y don ar ymyl Môr Ross, Antarctica.
Owen Hearn o Brydain enillodd wobr Ffotograffydd Bywyd Gwyllt Ifanc y Flwyddyn Veolia Environnement 2012 (categori 11–14 oed). Yn ei ddelwedd Flight paths, a dynnwyd ar fferm ei fam-gu a'i dad-cu, gwelwn ddelwedd o farcud coch gogoneddus sy'n ddrych o awyren yn y pellter.
Cafodd y ddwy ddelwedd buddugol eu dewis o blith enillwyr 18 o gategorïau unigol, oll yn dangos byd natur ar ei orau.
Mae Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn Veolia Environnement yn ddathliad o brydferthwch a mawredd y byd sy’n gartref i ni, ac yn ein hatgoffa hefyd o’i natur fregus.
Meddai Mark Carwardine, Cadeirydd panel y beirniaid:
'Er nad oes fformiwla hud i ennill, na rheolau pendant i esbonio pam fod un ffotograff yn ennill ar draul un arall, mae gan bob llun buddugol un peth yn gyffredin - gwreiddioldeb. Mae’r beirniaid yn chwilio am rywbeth sy’n eu syfrdanu. Mae’r gystadleuaeth yn chwarae rôl gynyddol bwysig wrth godi proffil ffotograffiaeth bywyd gwyllt a chodi ymwybyddiaeth am gadwraeth. Nid oes unrhyw beth yn fwy grymus na ffotograff sy’n tanio’r dychymyg, sy’n cyffwrdd a’n hemosiynau neu sy’n gwneud i ni feddwl'.
Trefnwyd cystadleuaeth Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn Veolia Environnement gan yr Amgueddfa Hanes Natur, Llundain a chylchgrawn BBC Wildlife.
[delwedd: ]
Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau