Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau
Pawb / Am ddim / Rhaid archebu wrth y Dderbynfa wrth gyrraedd.

Sgwrs Amser Cinio yn Oriel Gwreiddiau

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 20 Meh 2012, 1.05pm (Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar agor ar y rhan fwyaf o Wyliau Banc, gwiriwch cyn ymweld i wneud yn siŵr y bydd yr Amgueddfa ar agor.)

Shopping Mall CSI: cadwraeth archaeolegol yn y gymuned. Dana Goodburn-Brown, AmTec Co-operative.

Labordy cadwraeth ymchwiliol yw Anglo-Saxon CSI: Sittingbourne sy’n gweithio ar ganfyddiadau o fynwent Eingl-Sacsonaidd yn Sittingbourne, Caint.

Mae’n broject cadwraeth treftadaeth gyhoeddus unigryw dan arweiniad cymunedol gyda gwirfoddolwyr yn cadw gwrthrychau archaeolegol. Dyma’r tro cyntaf hefyd i’r cyhoedd gael cyfle i weld y broses gadwraeth mewn modd mor gyhoeddus.

Syniad cadwraethydd proffesiynol a brodor o’r ardal, Dana Goodburn-Brown, oedd y project a caiff ei redeg mewn partneriaeth ag Amgueddfa Treftadaeth Sittingbourne, Ymddiriedolaeth Archaeolegol Canterbury ac AMTeC Coop.

Mae Dana Goodburn-Brown MSc, ACR yn gadwraethydd archaeolegol achredig ac yn un o sylfaenwyr a chyfarwyddwyr AMTeC Coop, corff cydweithredol di-elw sy’n canolbwyntio ar ymchwilio i, gofalu am, ail-greu a chyflwyno arteffactau archaeolegol a thechnoleg hynafol.

Mae wedi gweithio ar brojectau cadwraeth archaeolegol dan nawdd datblygwyr am fwyafrif ei gyrfa 25 mlynedd; hi yw sylfaenydd a rheolwr cadwraeth Anglo-Saxon CSI: Sittingbourne; ac yn ddiweddar enillodd radd MSc mewn Treftadaeth Gynaliadwy o UCL.