Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau
/ Am ddim

Through the Magic Mirror: The World of Anthony Browne

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 2 Meh23 Medi 2012 (Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar agor ar y rhan fwyaf o Wyliau Banc, gwiriwch cyn ymweld i wneud yn siŵr y bydd yr Amgueddfa ar agor.)
Anthony Browne
Willy the Wimp © Anthony Browne

Mae Anthony Browne yn artist llyfrau cwbl unigryw a hynod. Mae ei luniau’n adrodd straeon heb yr angen am eiriau.

Daw Through the Magic Mirror: The World of Anthony Browne â gwaith Anthony’n fyw trwy ail-greu strydoedd fydd yn cynnwys Willy the Wimp, y cymeriad sydd, yn ôl pob son, yn seiliedig ar Anthony.

Fe gewch chi ddod i mewn i’w gartref deuluol sy’n cynnwys lluniau a gwrthrychau yn ogystal â gwaith celf o My Mum a My Dad.

Cerddwch trwy’r iard gefn o Changes, ewch am dro yn y parc neu weld gorila maint llawn yn y sw a gwaith celf Little Beauty.

Gallwch chi hefyd fynd i mewn i’r goedwig ble ceir addasiadau Anthony Browne o straeon tylwyth teg, gan gynnwys Hansel and Gretel, Me and You, Bear Hunt a The Tunnel.

Cliciwch yma am yr adnodd dysgu.

Arddangosfa deithiol gan Seven Stories, y ganolfan llyfrau plant genedlaethol.


Logo Seven Stories