Adnabod Artist: David Jones II - Engrafiadau, Darluniau ac Arysgrifau
Wyneblun ar gyfer 'In Parenthesis'
1937
Pensil, dyfrlliw ac inc ar bapur
Prynwyd oddi wrth Oriel Anthony D'Offay, 1975
David Jones oedd un o artistiaid ac awduron mwyaf blaenllaw Prydain yr ugeinfed ganrif.
Mae’r arddangosfa hon yn canolbwyntio ar ei waith cynnar fel gwneuthurwr printiau a darluniwr llyfrau, a’r arysgrifau paentiedig a greodd yn ddiweddarach yn ei yrfa.
Gwneuthurwr printiau oedd Jones yn bennaf ar ddechrau’i yrfa, gan greu engrafiadau ar bren a metel.
Dysgodd y grefft o engrafu pren gan Desmond Chute (1895-1957) ar ôl ymuno ag Urdd Sant Joseph a Sant Dominic yn Ditchling ym 1921.
Sefydlwyd y gymuned hon o grefftwyr Pabyddol ym 1919 gan ei fentor, yr artist Eric Gill (1882-1940) a Hilary Pepler (1878-1951). Yn Ditchling, aeth Jones ati i hogi’i grefft a chreodd beth o’i waith mwyaf coeth ar gyfer Gwasg St Dominic.
Cafodd Jones gomisiynau i wneud darluniau ar gyfer llyfrau gydol y 1920au, yn bennaf ar gyfer gweisg preifat. Roedd testunau ei waith yn adlewyrchu ei ffydd a’i ddiddordeb mewn straeon a chwedloniaeth hanesyddol.
Datblygodd arddull engrafu hynod bersonol, llawn mynegiant, ac roedd yn uchel ei barch am ei allu i gyfleu naws y testun yn ei ddarluniau. Cafodd ei ethol yn aelod o’r Gymdeithas Engrafwyr Pren ym 1926.
Penderfynodd roi’r gorau i engrafu ddechrau’r 1930au oherwydd problemau gyda’i lygaid. Dyma’r adeg y dechreuodd ganolbwyntio ar ysgrifennu a lluniau dyfrlliw. Gan barhau â’i ddiddordeb ym myd celf a’r gair, dechreuodd Jones greu arysgrifau paentiedig yn y 1940au.
Defnyddiodd destunau Beiblaidd a barddonol ac ieithoedd amrywiol, Lladin, Groeg, Cymraeg a Saesneg. Daethant yn elfen bwysig o’i waith diweddar, a chynhyrchodd ryw drigain ohonynt.

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau