Ymchwilio a Datgelu: Celf Ffrengig gyda Phrifysgol Bryste
Jean-François Millet (1814 - 1875)
Olew ar gynfas
Casgliad y Chwiorydd Davies
Golwg o’r newydd ar gasgliad yr Amgueddfa o baentiadau’r cyfnod cyn yr Argraffiadwyr Ffrengig, gyda gwaith ymchwil a dehongli gan Brifysgol Bryste.
Mae gan Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd un o’r casgliadau mwyaf eithriadol o gelf Ffrengig y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn y DU.
Mae chwe myfyriwr ôl-raddedig mewn Hanes Celf wedi dewis a dethol, ymchwilio a dehongli rhai o’r paentiadau i greu’r arddangosfa newydd hon ar y thema Breuddwydion Chwyldroadol .
Mae Breuddwydion Chwyldroadol yn olrhain cyfnod cythryblus yn hanes Ffrainc y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r cysylltiad rhwng chwyldroadau’r werin a’r datblygiadau chwyldroadol ym myd celf.
Nod yr arddangosfa yw cyflwyno’r cyd-destun cymdeithasol a gwleidyddol yn Ffrainc yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Cyfeirir yn aml at y cyfnod fel ‘Canrif o Chwyldro’, a hynny am resymau da a dilys, gan i rym ac awdurdod newid dwylo’n gyson.
Trwy brojectau fel hyn, mae’r Amgueddfa’n gobeithio annog ysgolheictod yng nghasgliadau’r amgueddfa, cynyddu mynediad i’r cyhoedd a meithrin sgiliau curaduron a gweithwyr amgueddfa’r dyfodol.
Ariannwyd y project ar y cyd hwn gan Gymdeithas yr Haneswyr Celf.

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau