Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau
Pawb / Am ddim

Ymchwilio a Datgelu: Celf Ffrengig gyda Phrifysgol Bryste

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 24 Maw9 Medi 2012 (Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar agor ar y rhan fwyaf o Wyliau Banc, gwiriwch cyn ymweld i wneud yn siŵr y bydd yr Amgueddfa ar agor.)
Y Teulu Gwerinol (1871-2),  Jean-François Millet (1814 - 1875)
Y Teulu Gwerinol (1871-2)
Jean-François Millet (1814 - 1875)
Olew ar gynfas
Casgliad y Chwiorydd Davies

Golwg o’r newydd ar gasgliad yr Amgueddfa o baentiadau’r cyfnod cyn yr Argraffiadwyr Ffrengig, gyda gwaith ymchwil a dehongli gan Brifysgol Bryste.

Mae gan Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd un o’r casgliadau mwyaf eithriadol o gelf Ffrengig y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn y DU.

Mae chwe myfyriwr ôl-raddedig mewn Hanes Celf wedi dewis a dethol, ymchwilio a dehongli rhai o’r paentiadau i greu’r arddangosfa newydd hon ar y thema Breuddwydion Chwyldroadol .

Mae Breuddwydion Chwyldroadol yn olrhain cyfnod cythryblus yn hanes Ffrainc y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r cysylltiad rhwng chwyldroadau’r werin a’r datblygiadau chwyldroadol ym myd celf.

Nod yr arddangosfa yw cyflwyno’r cyd-destun cymdeithasol a gwleidyddol yn Ffrainc yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Cyfeirir yn aml at y cyfnod fel ‘Canrif o Chwyldro’, a hynny am resymau da a dilys, gan i rym ac awdurdod newid dwylo’n gyson.

Trwy brojectau fel hyn, mae’r Amgueddfa’n gobeithio annog ysgolheictod yng nghasgliadau’r amgueddfa, cynyddu mynediad i’r cyhoedd a meithrin sgiliau curaduron a gweithwyr amgueddfa’r dyfodol.

Ariannwyd y project ar y cyd hwn gan Gymdeithas yr Haneswyr Celf.