Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau
Pawb / Am ddim

Diana ac Actaeon Titian ar daith o’r Oriel Genedlaethol

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 19 Ebr17 Meh 2012 (Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar agor ar y rhan fwyaf o Wyliau Banc, gwiriwch cyn ymweld i wneud yn siŵr y bydd yr Amgueddfa ar agor.)
Diana a Actaeon, 1556-59, Titian
Diana ac Actaeon, 1556-59
Titian
Prynwyd ar y cyd gan yr Oriel Genedlaethol ac Orielau Cenedlaethol yr Alban gyda chyfraniadau gan Lywodraeth yr Alban, Cronfa Goffa Treftadaeth Genedlaethol, yr Ymddiriedolaeth Henebion, y Gronfa Gelf (gyda chyfraniad gan Ymddiriedolaeth Wolfson) a drwy apêl cyhoeddus, 2009.
Ffotograff © Yr Oriel Genedlaethol, Llundain.

Wedi ymgyrch dwy flynedd i godi arian, prynwyd y campwaith hwn o oes y Dadeni gan yr Oriel Genedlaethol ac Orielau Cenedlaethol yr Alban yn 2009.

Dyma fydd y tro cyntaf i’r gwaith celf ymweld â Chymru yn ystod ei hanes lliwgar.

Mae Diana ac Actaeon yn un o gyfres o chwech o gynfasau mawr chwedlonol wedi’u hysbrydoli gan waith y bardd Rhufeinig Ofydd, ac a beintiwyd ar gyfer Philip II brenin Sbaen gan Titian pan oedd yntau ar anterth ei yrfa.

Bydd Diana ac Actaeon i'w weld o ddydd Iau 19 Ebrill ymlaen, gydag oriau agor arbennig ar gyfer yr oriel y diwrnod hwnnw tan 7.30pm.

Dechreuodd Titian ar y paentiad a’i gymar Diana a Callisto ym 1556, blwyddyn coroni Philip, a bu bri’r nawdd brenhinol yn sbardun i’w greadigrwydd gan ei ysgogi i greu weithiau hynod o brydferth a dyfeisgar.

Bu Titian wrthi am dair blynedd yn perffeithio’r campweithiau yma, a gludwyd i Sbaen ym 1559.

Y rheswm dros yr oedi oedd ei fod wedi mynd i drafferth fawr i greu gweithiau celf cyfoethog fyddai’n teilyngu’r brenin.

Diana ac Actaeon

Mae'r paentiad yn dangos canlyniadau angheuol dyn wedi'i ddal yn helyntion y duwiau. Mae’n hynod am ei ddramateiddiad grymus o begynau emosiwn dynol.

Tra’n hela, mae Actaeon yn ddamweiniol ganfod man golchi dirgel Diana, duwies ddiwair yr helfa. Dyma Titian yn arbrofi â threfniant ffigurau dynamig, golau a lliwiau llachar a gwaith brws llawn cymeriad i gyfleu effaith ddramatig y tarfu.

Caiff tynged Actaeon ei ragweld gan y penglog hydd ar y plinth a chrwyn ysglyfaeth blaenorol Diana yn hongian uwch ei phen. Gwelwn ddiweddglo’r hanes yn Marwolaeth Actaeon sydd i’w weld yn yr Oriel Genedlaethol, Llundain.

Mae’r dduwies yn ei chynddaredd yn dial yn syth drwy droi Actaeon yn hydd sy’n cael ei ladd gan ei g?n ei hun.

Seiliwyd y testun ar ‘Metamorphoses’ gan Ofydd a chyfeiriau Titian ei hun atynt fel cerddi 'poesie'. Dyma mwy am Diana ac Actaeon o yr Oriel Genedlaethol.

Mae'r fideo yma yn edrych yn fanwl ar Diana ac Actaeon gydag Anne Pritchard, Curadur Cynorthwyol - Celfyddyd Hanesyddol ac Oliver Fairclough, Ceidwad Celf Amgueddfa Cymru.