Sesiwn Dros Gymru: Gweithdai bore a pherfformiad prynhawn cerddoriaeth draddodiadol Gymreig
Tri dosbarth offerynnol gan Clera, Cymdeithas Offerynnol Traddodiadol Cymru, a gweithdy canu alawon gwerin ar y cyd â'r Gymdeithas Alawon Gwerin, yn arwain at berfformiad cyhoeddus yn y prynhawn yn Stiwt Glowyr Oakdale ac wedyn sesiwn werin anffurfiol i ddilyn.
Un o weithdai a sesiynau olaf Sesiwn dros Gymru, dan gefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, rhydd y diwrnod hwn gyfle i gydganu caneuon Cymraeg, ac i gydchwarae'r hen alawon ar offerynnau acwstig.
Bydd y dosbarth cannu gwerin yn dysgu nifer o ganeuon Gymraeg i ddysgwyr a hefyd i siaradwyr Gymraeg yr hoffent ddatblygu eu hyder wrth ganu'r hen ganeuon. Bydd y dosbarth yn rhedeg yn Stiwt y Glowyr yn ystod y bore a bydd croeso i ymwelwyr ymuno trwy wrando neu ganu, neu ymuno â'r dosbarth.
Cofrestru: 10.00; dosbarthiadau 10.30 - 1pm, perfformiad 2.15pm
Pris: - oedolion: £7.50, myfyrwyr: £5, teulu: £12
Rhagor o fanylion ar daflenni yn nerbynfa'r amgueddfa neu ar wefan: www.sesiwn.com

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau





