Pawb / Am ddim
Adain Avion
Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 12 Awst 2012,
I'w Gadarnhau
Gofod celf symudol yw Adain Avion wedi ei greu o gorff awyren DC-9 gafodd ei ddarganfod a’i weddnewid gan y cerfluniwr a dylunydd Sbaenaidd, Eduardo Cajal.
Bydd yr artist Cymreig Marc Rees yn dathlu pen-blwydd Avion yn 20 oed trwy ddod ag e i Gymru yn ystod haf 2012 fel rhan o'r Olympiad Diwylliannol Llundain.
Bydd yn aros yn Abertawe, 24-30 Mehefin; Glynebwy, 1-7 Gorffennaf; Llandudno, 8-14 Gorffennaf a maes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Lland?, 4-11 Awst; gan gofnodi a recordio digwyddiadau a pherfformiadau hyd y ffordd.
Ar Awst 12 bydd yn galw draw i Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru am y diwrnod, gan adael 'blwch du' o recordiadau a gaiff eu storio yn yr archif ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau