Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau
Pawb / Am ddim

Adain Avion

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 2430 Meh 2012, 10am - 5pm

Gofod celf symudol yw Adain Avion wedi’i greu o gorff awyren DC-9.

Abertawe yw’r arhosfan gyntaf ar daith Adain Avion sy’n nythu o amgylch Cymru. Bydd yn waith ar y cyd ag artistiaid, grwpiau cymunedol a sefydliadau lleol.

Darn symudol o gelfyddyd gyhoeddus yw Adain Avion, ar ei fwyaf tryloyw, hygyrch, ymgyfranogol a rhyngweithiol.

Caiff pob gweithgarwch – yn y corff ac o'i gwmpas – ei ffilmio a chedwir y cyfan mewn blwch du cofnodol (yn yr un modd â’r blwch du ar awyrennau sy’n cofnodi perfformiad).

Mae Adain Avion yn gatalydd ar gyfer cyfrannu a chydweithio creadigol a chyda'r deunydd a gofnodir, caiff archif bwysig ei llunio, cof eclectig i gynrychioli ein gwlad unigryw yn yr unfed ganrif ar hugain.

Pen y daith trwy Gymru i Adain Avion fydd Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2012 ar hen faes awyr yn Lland?, Bro Morgannwg rhwng 4-11 Awst.

Bydd corff yr awyren yn aros ar y maes yn ystod wythnos yr Eisteddfod a bydd y ‘blwch du’ yn cael ei agor i ddatgelu’r archif a gasglwyd yn y tri man nythu ar hyd y daith.

Caiff y delweddau hyn eu dangos ar sgriniau dan lawr gwydr mewnol Avion. Bydd yn agored i’r Eisteddfodwyr ac fe’u gwahoddir i weld yr archif.

Mae’r gosodiad olaf hwn yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn digwydd ar yr un pryd ag wythnos olaf Gemau Olympaidd Llundain 2012.

Ar ddydd Sul 12 Awst, wrth i’r Gemau Olympaidd dynnu tua’u terfyn, bydd corff yr awyren yn cychwyn ei daith adref i Sbaen ar ôl gadael y ‘blwch du’ yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru.

Bydd yr archif werin gyfoes anhygoel hon yn cael ei harddangos yng nghyd-destun y casgliad cenedlaethol fel rhan o etifeddiaeth barhaus Adain Avion.

Mwy o wybodaeth am Adain Avion yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

.