Pawb / Am ddim
Ffoaduriaid Iddewig yn ne Cymru, 1933-1945
Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 21 Ebr–1 Gor 2012,
10am - 5pm
Llun o Henry Foner (Heinz Lichtwitz) a dynnwyd cyn iddo fyrddio’r Kindertransport yn Berlin. Cyrhaeddodd Henry Foner BRydain ar 3 Chwefror 1939. Ysgrifennodd ei rieni y gair Abschied – (ffarwel) mewn Almaeneg ar gefn y llun hwn. (Trwy garedigrwydd Henry Foner)
Henry Foner (Heinz Lichtwitz) gyda’I rieni maeth newydd, Mr a Mrs Foner, Abertawe, Mawrth 1939 (Trwy garedigrwydd Henry Foner)
Ellen Davis ar y dde gyda’I theulu yn Hoof, ger Kassel, 1937 (Trwy garedigrwydd Ellen Davis)
Arddangosfa yn edrych ar hanes emosiynol y ffoaduriaid Iddewig o Ganolbarth a Dwyrain Ewrop a gyrhaeddodd dde Cymru rhwng 1933 a 1945.
Daethant o wledydd ac o gefndiroedd gwahanol, ond roedd pob un yn ffoi rhag creulondeb Natsiaeth. Mae eu straeon yn pigo’r meddwl ac weithiau yn ingol, ond maent hefyd yn llawn ysbrydoliaeth.
Arddangosfa deithiol gan Wasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg.

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau