Pawb / Am ddim
Holi’r Garddwr: Plannu Tatws Treftadaeth
Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 11 Ebr 2012,
2pm - 3pm
Yma’n Sain Ffagan, rydyn ni’n tyfu sawl math o hadau treftadaeth sydd ddim bellach ar gael i’w prynu, gan gynnwys Iam, taten gnapiog gafodd ei thyfu ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif a’r ‘Lumper’, y math o datws gafodd ei dyfu’n Iwerddon yn ystod newyn mawr 1845-49. Galwch draw i ardd Kennixton i weld yr hen fathau hyn yn cael eu plannu.
Gair o gyngor: cuddiwch eich tatws â phridd wrth iddyn nhw flaguro er mwyn eu diogelu rhag rhew hwyr.

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau