Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau

Amgueddfa Cymru

Pawb / Am ddim

Holi’r Garddwr: Hau Hadau Treftadaeth

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 14 Ebr 2013, 2pm - 3pm

[delwedd: ]

Yn Abernodwydd, rydyn ni’n tyfu sawl math o hadau treftadaeth sydd ddim bellach ar gael i’w prynu. Galwch draw i’r ardd i weld beth allwch chi ei hau nawr.

Yma’n Sain Ffagan, rydyn ni’n ceisio tyfu llysiau sy’n addas i oedran y tai.

Dau o sêr ein casgliad yw ‘Carlin’, math o bys o’r 17eg ganrif a ‘White Windsor’, ffa y soniwyd amdani yng nghatalogau hadau 1729.