Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau

Amgueddfa Cymru

Pawb / Am ddim

Holi’r Garddwr: Plannu Tatws Treftadaeth

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 13 Ebr 2013, 2pm - 3pm

[delwedd: Tatws]

Galwch draw i ardd Rhyd-y-car i weld tatws treftadaeth yn cael eu plannu a bydd cyfle i ofyn am y dechneg arddio benodol hon.

Yma’n Sain Ffagan, rydyn ni’n ceisio tyfu llysiau sy’n addas i oedran y tai. Mae gennym ni bum math o datws o’r cyfnod cyn 1850, gan gynnwys y ‘Lumper’, y math o datws gafodd ei dyfu’n fwy nag unrhyw fath arall yn Iwerddon yn ystod newyn mawr 1845-49.