Yr Ardd Hynafol
Mae’r Ardd Hynafol yn dilyn anterth a thranc tri gwareiddiad a’u gerddi: yr hen Aifft, yr Hen Roeg ac Ymerodraeth Rufain.
Yn ei sgwrs, bydd Russell Bowes yn trafod dyluniad, planhigion a thechnegau garddwriaethol gan ddefnyddio tystiolaeth o safleoedd archaeolegol a ffotograffau modern o blanhigion.
Bydd y sgwrs yn edrych ar arddull gyffredinol gerddi Rhufeinig ar draws yr Ymerodraeth, yn seiliedig ar weddillion archaeolegol o safleoedd pwysig, megis Pompeii a Fishbourne. Bydd hefyd yn ystyried sut y daeth planhigion cyffredin yn ein gerddi a’n ceginau heddiw i Brydain yn y certiau bwyd, golch a meddyginiaeth ddaeth gyda’r llengoedd.
Dysgwch ragor am dechnegau, offer a dyfeisiau garddio Rhufeinig. Wedi’r sgwrs, ewch am dro o gwmpas ein hatgynhyrchiad ni o ardd Rufeinig.
Sgwrs a lluniaeth ysgafn.

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau