Tessera Hospitalis
Mae Tessera Hospitalis yn symbol hynafol o gyfeillgarwch a rhwymau hirbell, eitem fach unigryw wedi’i gwneud o ifori, metel neu glai, a allai fod ar unrhyw ffurf - llew, baedd, hwrdd, geco neu symbol haniaethol. Byddai’n cael ei gwneud mewn dwy ran, gyda dwy ffrind yn cadw hanner yr eitem fel addewid a nod hunaniaeth i’w gyflwyno y tro nesaf y bydden nhw, neu eu plant, yn dod at ei gilydd. O archaeoleg a chomedi hynafol Plautus, Poenulus, rydym yn gwybod fod cyfeillion, ryw 3,000 o flynyddoedd yn ôl, yn cyfnewid eitemau o’r fath, gan estyn y clymau â’i gilydd dros gannoedd o filltiroedd a chenedlaethau. Yn hen fyd y Canoldir, lle y byddai pobl yn aml ar fynd, roedd lletygarwch yn hollbwysig.
Mae’r cerflun modernhwn wedi’i ysbrydoli gan y Tessera Hospitalis hynafol, a’r hyn mae’n ei gynrychioli.
Nid rhywbeth statig yw’r cerflun ond rhywbeth symudol, gan mai un hanner yn unig o’r cyfan yw e. Mae pob siâp wedi’i greu’n unigryw gan ddisgybl o un o 9 ysgol yn Abertawe, Cila, Cwm Glas, Cwmrhydyceirw, Dylan Thomas, Hendrefoilan, Morriston, Parkland, Sea View a St Helens, a gymerodd ran yn y prosiect Future Memory in Place, yn ogystal ag aelodau eraill o gymuned Abertawe.
Gwarcheidwad ei Tessera ei hun yw pob un ohonynt - rhywbeth sy’n ei gysylltu â’r cofadail hwn ac ennyd ei greu. Beth fydd straeon Tesserae y cerflun hwn? Dim ond y rhai a’u gwnaeth a’r rhai sy’n dal yr ail hanner fydd yn gwybod - wrth iddynt estyn eu clymau â’i gilydd ac â phorthladd hynafol Abertawe i’r dyfodol ac ar draws y byd.
Ewch i http://projects.beyondtext.ac.uk/deplacingfuturememory-fo/index.php am ragor o fanylion am y project a'r prif noddwyr - Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau a gwaith ymchwil creiddiol Adran Clasuron a Hen Hanes Prifysgol Caerwysg.

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau