Archaeopteryx
Ai aderyn neu ddeinosor oedd Archaeopteryx? Dim ond 10 sbesimen sydd wedi’u darganfod hyd yn hyn (ac un bluen yn unig), a hynny mewn ardal fechan yn yr Almaen.
Nawr, bydd un o’r sbesimenau gwreiddiol, a elwir yn “The Phantom” (oherwydd ei fod yn hysbys, ond nad yw byth yn cael ei weld) yn cael ei arddangos yn y DU am y tro cyntaf.
Mae'r arddangosfa i ddathlu 150 o flynyddoedd ers darganfod Archaeopteryx, y ffosil pluog enwog sy’n cael ei ystyried yn ‘ddolen goll’ rhwng deinosoriaid ac adar.
Aderyn pluog cyntefig tua’r un maint â phioden oedd Archaeopteryx, ond mae ei sgerbwd ffosiledig yn edrych yn debycach i ddeinosor bychan.
Fe’i disgrifiwyd am y tro cyntaf 150 mlynedd yn ôl gan Hermann von Meyer (1801-1869), palaeontolegydd o’r Almaen. Ers hynny, mae Archaeopteryx wedi bod yn destun dadl ynghylch tarddiad adar a’u cysylltiad â’r deinosoriaid.
Cafodd y sbesimen gwreiddiol hwn ei ddarganfod yn Daiting, de’r Almaen, gan gasglwr preifat. Chafodd neb wybod am ei fodolaeth tan 1996 pan gafodd cast ei ryddhau. Gan na ddatgelwyd ble’n union yr oedd, rhoddwyd yr enw ‘The Phantom’ iddo.
Yn 2009, cafodd ei ailddarganfod a’i brynu gan balaeontolegydd proffesiynol. Mae’n cael ei arddangos yma yn awr, am y tro cyntaf y tu allan i’r Almaen.
Sbesimen darniog ydyw, ac er nad yw mor ddeniadol â rhai eraill, mae’n bosibl ei fod ymhlith y pwysicaf. Cafodd ei ddarganfod mewn creigiau o gyfnod diweddarach na’r lleill, ac fe allai fod yn fwy datblygedig. Mae’n cynnwys penglog sydd bron yn gyfan, y ddwy balfais, asgwrn tynnu, a choes flaen chwith gyfan bron gydag un bys crafanc.
Bydd castiau a delweddau o’r naw ffosil Archaeopteryx arall yn cael eu harddangos hefyd, yn cynnwys sbesimenau ‘Llundain’ a ‘Berlin’.
Gellir gweld ffosilau eraill o’r un ffurfiant daearegol sydd wedi’u cadw’n rhyfeddol yn yr arddangosfa hon, yn cynnwys gwas y neidr a pterosaur bach (ymlusgiad adeiniog).

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau