Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau
English
Pawb / Am ddim

Adnabod Artist : David Jones - Paentiadau a Lluniau Dyfrlliw

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen Tach 5 2011Maw 4 2012 2012 (Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar agor ar y rhan fwyaf o Wyliau Banc, gwiriwch cyn ymweld i wneud yn siŵr y bydd yr Amgueddfa ar agor.)
Desmond Chute (1895-1962), David Jones, 1926
Desmond Chute (1895-1962), David Jones, 1926

David Jones (1985-1974): Paentiadau a Lluniau Dyfrlliw. Detholiad o’n casgliad o weithiau rhagorol gan yr artist.

Mae David Jones yn unigryw ymhlith arlunwyr Prydeinig yr ugeinfed ganrif, a chyfeirir ato’n aml fel y bardd-arlunydd gorau ers Willam Blake.

Fel Blake Llundeiniwr ydoedd a anwyd yn Brockley, gogledd Caint, ond ag yntau’n fab i Gymro a Saesnes, roedd tirwedd, iaith a chwedlau Cymru yn ddylanwadau mawr ar ei waith.

Eiddo Amgueddfa Cymru yw’r prif gasgliad cyhoeddus o waith Jones, ond gan mai lluniau dyfrlliw a greodd yn bennaf, nid ydynt yn cael eu harddangos yn barhaol.

Y cyfrwng hwnnw sy’n cael sylw yma, a bydd arddangosfa arall yn dilyn a fydd yn canolbwyntio ar ei engrafiadau, darluniau mewn llyfrau, ac arysgrifiadau.

Aeth i ysgol gelf cyn gorfod hel ei bac i’r ffosydd yn y Rhyfel Mawr. Ym 1921, daeth yn ddisgybl i’r artist-grefftwr Eric Gill, ac ymgartrefodd gyda Gill a’i deulu am ran helaeth o’r 1920au.

Ym 1924, symudodd Gill i Gapel-y-ffin yng nghanol y Mynyddoedd Duon a datblygodd Jones weledigaeth o dirwedd Sir Frycheiniog oedd wedi’i gwreiddio’n ddwfn yng nghelf Cézanne. Bu’n aelod o fudiad arddangoswyr modernaidd y Seven and Five Society rhwng 1928 a 1935.

Gadawodd greithiau’r rhyfel eu hôl yn barhaol ar Jones, a dyma oedd testun ei gerdd fawr gyntaf In Parenthesis (1937).

Cafodd chwalfa nerfol ddifrifol ym 1932 ac eto ym 1947, a effeithiodd yn ddirfawr ar ei allu i weithio. Mae ei baentiadau diweddarach yn rai hynod bersonol ac yn gyforiog o themâu diwinyddol, hanesyddol a chwedlonol.