Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau
English
Pawb / Am ddim

John Piper: Mynyddoedd Cymru – Paentiadau a Darluniau o Gasgliad Preifat

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 11 Chwe13 Mai 2012 (Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar agor ar y rhan fwyaf o Wyliau Banc, gwiriwch cyn ymweld i wneud yn siŵr y bydd yr Amgueddfa ar agor.)
John Piper, Tarddle’r Ddyfi, 1943-4
Tarddle’r Ddyfi, 1943-4
John Piper
Olew ar gynfas ar fwrdd
Ar fenthyg o gasgliad preifat
© Ystâd John Piper
John Piper, Cwm Creigiog, Gogledd Cymru. 1948
Cwm Creigiog, Gogledd Cymru. 1948
John Piper
Olew ar gynfas ar fwrdd
Ar fenthyg o gasgliad preifat
© Ystâd John Piper

Llwyfan i gasgliad preifat rhyfeddol o weithiau gan John Piper yw’r arddangosfa hon.

Bu Piper yn byw ac yn gweithio am gyfnodau yng ngogledd Cymru dros 15 mlynedd yn y 1940au a’r 1950au.

John Piper yw un o ffigyrau blaenllaw celf yr ugeinfed ganrif yng ngwledydd Prydain. Mae ei waith yn cynnwys portreadau, tirluniau, astudiaethau archaeolegol, bywyd llonydd, cerameg a chynlluniau ar gyfer tapestri a gwydr lliw.

Roedd ganddo ddiddordeb mawr mewn tirweddau a phensaernïaeth ym mhob cwr o Brydain, gan gynnwys Eryri.

Ei luniau dramatig o fynyddoedd gogledd Cymru yw testun yr arddangosfa hon.

Mae’r arddangosfa hon yn cynnwys cyfres wych o olygfeydd o Eryri ac yn eu cyflwyno yn eu cyd-destun.

Roedd mynyddoedd y Gogledd yn ysbrydoliaeth aruthrol i Piper rhwng dechrau’r 1940au a chanol y 1950au, pan fu’n rhentu dau fwthyn, Pentre a Bodesi, yn ardal Eryri.

O’i fwthyn, byddai’n crwydro ar hyd a lled y dirwedd rewlifol er mwyn cyfleu prydferthwch garw’r mynyddoedd.

Arlunydd yr awyr agored oedd Piper yn bennaf, gan wneud brasluniau o’r mynyddoedd a’r llynnoedd ym mhob tymor, glaw a hindda. Roedd effeithiau hyn ar liwiau’r creigiau yn rhan ganolog o’i waith.

Yn ogystal ag effaith y tywydd a’r golau, roedd gan Piper ddiddordeb mawr yn naeareg yr ardal. Mae llawer o’r darluniau a’r paentiadau a welwch yma’n dangos gallu arbennig yr artist i gofnodi pob manylyn daearegol.

Ymunwch â ni ar daith drwy rai o’r lleoliadau a welir ym mhaentiadau John Piper ar 21 Ebrill gyda Melissa Munro, Curadur Celf Fodern a Chyfoes Derek Williams a Dr Richard Bevins, Ceidwad Daeareg Amgueddfa Cymru.

Cafwyd cefnogaeth hael gan Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston, Sefydliad Paul Mellon ac Ymddiriedolaeth Derek Williams. I gyd-fynd â'r arddangosfa, mae catalog gan y curadur Melissa Munro sydd hefyd yn cynnwys traethawd gan David Fraser Jenkins.